Cofnodion y Cyngor

Cofnodion Cyngor nos Iau Mawrth 14 am 7pm

Presennol: E.R.Noble, T.W.Jones, Liz Roberts, M.L.Hughes, C.L.Price.

Ymddiheuriadau: M.Skerrett, C.Brewer, I.W. Griffiths

Datgan Diddordeb. Dim

Cofnodion. Cadarnhawyd cofnodion Cyngor Chwefror 8, cynnig M.L.Hughes, cefnogi L.Roberts a pawb yn cytuno.

 

Heddlu. Clerc i gysylltu gyda’r PCSO  Michele? i’w gwahodd i gyfarfod o’r Cyngor.

 

Yr Orsaf. Dal i aros i gael atgyweirio’r ffens sydd wedi torri yn nhir yr Orsaf, atebiad gan

Network Rail yn cadarnhau eu bod wedi derbyn llythyr gan y Clerc yn cyfeirio at y difrod. Clerc i anfon at Kevin Jones Cyngor Sir i ofyn tybed all o drefnu i symud coeden sydd wedi syrthio yn y tir.

 

Yr A470. Clerc i anfon at NMWTRA i ofyn am gael dychwelyd yr arwydd sy’n fflachio i’r safle roedd arno yn y pentref  ar yr A470.   

 

Cyngor Sir. Cafwyd adroddiad fod canllaw y bont ar lwybyr y Ddȏl wedi torri, Clerc i anfon at  Kevin Jones Cyngor Sir i ofyn iddo gael golwg ar y sefyllfa, gan fod llawer yn defnyddio’r llwybyr. C.L.Price yn dweud fod cyflwr Allt Cyfyng yn ddrwg iawn, mae’n golygu fod y rhai sy’n defnyddio’r ffordd yn gorfod mynd filltiroedd allan o’i ffordd i osgoi yr allt, anfon at Kevin eto i gael golwg ar y sefyllfa. Bu llifogydd garw hyd Ffordd Roman ac yng ngheg y ffordd i Roman oddiar yr A470. Mae twll yng ngwyneb y ffordd yn dilyn yr holl ddŵr oedd wedi llifo i lawr yr allt ac yn cario cerrig hefo fo i mewn i’r ffordd yr Orsaf. Clerc i ddwyn sylw NMWTRA at y difrod.

 

Toiledau. Dau deulu wedi canmol cyflwr glȃn y toiledau wrth y Clerc. Liz yn dal i drafod y sefyllfa gyda’r taliad o £500 gan CBSC at gynnal yr adeilad.

 

Gwaith yn y Fynwent. Y gwaith yn y fynwent yn mynd ymlaen yn arbennig o dda, Connie yn ymddiheuro na all hi fod yn y cyfarfod ond wedi anfon adroddiad manwl am yr hyn sydd wedi’i gyflawni hyd yma. Teimlai Connie y dylid cynnwys gwybodaeth am y gwaith ar dudalen  Gweplyfr Dolwyddelan, Clerc i gyfieithu’r manylion. Trafodwyd dyddiad ar gyfer agoriad swyddogol yr adeilad yn dilyn yr holl waith a chytunwyd yn unfrydol ar Fedi 28. Roedd pawb yn wirioneddol ddiolchgar i Connie am am ei hymroddiad a’i gwaith gyda’r prosiect ac am gofnodi hynny.   

 

Gofalwr i’r Fynwent.  Cadarnhaodd y Clerc fod Alistair wedi dweud na fuasai’n cynnig am swydd y Gofalwr, roedd y Clerc wedi cysylltu ȃ dau  i holi oedd ganddynt ddiddordeb ond heb lwyddo, fodd bynnag roedd wedi cysylltu  hefo person arall ac yn mynd i drefnu i’w gyfarfod yn y fynwent.

 

Gofgolofn. Clerc wedi derbyn 1 cais ar gyfer swydd Gofalwr i’r Gofgolofn, cais gan I.Roberts fu’n gwneud y gwaith y llynedd oedd y cais, cytunodd yr Aelodau yn unfrydol ei fod wedi cwblhau gwaith arbennig o dda ac roeddent yn unfrydol y dylid rhoi y swydd iddo eto eleni.

 

Ariannol. Rhoes y Clerc adroddiad am y sefyllfa bresennol i’r Aelodau. Cytunwyd i dalu’r biliau, gan gynnwys y gwaith o gyfieithu’r hysbyseb ar gyfer Swydd y Clerc, cynnig E.R.Noble, cefnogi  M.L.Hughes.

 

Archeb 2024 Y ffurflen ar gyfer Archeb 24/25 wedi ei hanfon at CBSC. M.Skerrett wedi bod yn gweld Iona ac roedd hi wedi ymddiheuro a dweud y buasai yn anfon ei bil yn fuan. 

 

Trefn Bancio. Adroddiad manwl gan M.Skerrett am y gwaith mae yn wneud i geisio cael bancio ar Lein/dros y ffȏn - mae o yn methu’n lȃn a cael gwybodaeth pendant er mwyn gallu symud ymlaen. Roedd wedi trafod sut i drefnu y cyfrifon i’r dyfodol  gyda Iona ac roedd hi yn hapus gydag unrhyw drefn cyfrifo y buasai’r  Cyngor yn ei ddewis.

 

Cynllun Cymunedol.Cadarnhaodd Liz Roberts y bydd cyfarfod agored yn y Pafiliwn Mawrth 19 ble gall y gymuned gael holi cynrychiolwyr o’r Parc Cenedlaethol, Grwp Cynefin a’r Cyngor Cymuned.

 

Torri Coed.  Pont y Pant ac Allt Gweithdy, dim wedi digwydd hyd yma.

 

Archwiliad.  Clerc wedi derbyn cais am eglurhad ar fater o swyddfa’r Archwiliad ac wedi ymateb iddynt.

 

Hyfforddiant. Cytunodd pawb fod y drefn yn gweithio yn eithaf  hwylus, mae rhagor o gyrsiau ar y gweill a chytunwyd y dylent barhau i fynd arnynt.


Sgip. Cyfeiriwyd at y newydd fod CBSC yn dod a’r drefn Gwasanaeth Sgip i ben, dywedodd Liz Roberts fod rhai cynghorau yn ystyried rhannu sgip - cytunwyd y buasai’n rhaid cael rhagor o wybodaeth am hyn.

 

Cyfarfod nesaf. Cytunwyd i gyfarfod nesaf  nos Iau  Ebrill  4.