Amdanom Ni
Mae oddeutu 380 o bobl ar restr etholwyr yr ardal ac mae’r Cyngor Cymuned yn cyfarfod chwech gwaith y flwyddyn yn y Ganolfan Gymdeithasol ar y nos Iau cyntaf o’r mis am 7pm.
Cynhelir cyfarfodydd ym mis: Ionawr, Mawrth, Mai, Gorffennaf, Medi a Thachwedd.
Mae’r Cyngor o fewn ffiniau Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy a hefyd o fewn ffiniau Parc Cenedlaethol Eryri sydd â chyfrifoldeb am holl faterion cynllunio’r ardal.
Gellir cysylltu â Chyngor Conwy ar 01492576300
a’r Parc Cenedlaethol ar 01766770274