Cofnodion y Cyngor

Cofnodion Cyngor nos Iau Hydref 12  2023 am 7pm

Presennol: E.R.Noble, C.Brewer, T.W.Jones, C.L.Price, Liz Roberts, M.Skerrett, I.W.Griffiths, M.L.Hughes.

Datgan Diddordeb. Dim

Cofnodion. Cadarnhawyd cofnodion Cyngor Medi 14 cynnig E.R.Noble, cefnogi M.L.Hughes a pawb o blaid.

 

Heddlu. Dim cysylltiad gan yr Heddlu ond roedd y Clerc wedi cael gair gyda Heddwas oedd yn gadael y Swyddfa yn adeilad Llyfrgell Llanrwst ac wedi gofyn iddo roi neges i Jessica Williams i gysylltu ag ef, dywedodd yr Heddwas nad oedd hi yn y Swyddfa ar hyn o bryd. Mae cloch ar y tu allan i’r adeilad i gael sylw. 

 

Yr A470. Bu llawer o drafod ar ddyfodiad y drefn 20mya, cytunwyd y bydd angen gweld pa effaith gaiff hyn ar y teithio drwy’r pentref. Mae L.Roberts yn dal i drafod gyda swyddogion. Cadarnhaodd y Clerc fod arwydd yn arosfan Pont Arenig yn nodi fod toiledau ar gael yn y pentref.

 

Cyngor Sir. Atebiad gan Kevin Jones CBSC yn cadarnhau ei fod yn cytuno fod cyflwr Allt Cyfyng yn ddigon gwael ond nad oedd y coffrau yn caniatau iddynt wneud gwaith sylweddol yno ar hyn o bryd, ond fe wnaiff drefnu i Chris Roberts yrru gweithwyr yno i lenwi’r tyllau a’i thacluso.

 

Llifogydd. L.Roberts yn aros am air gan Owen? ynglŷn ȃ’r sefyllfa.

 

Scottish Power. Liz Roberts yn cael ar ddeall bydd gwaith yn digwydd yn 2024.   

 

Toiledau. Clerc wedi derbyn atebiad gan Gary Williams o CBSC yn cynnig dod i drafod y sefyllfa gyda’r taliad blynyddol o £500 a’r sefyllfa taliad cerdyn  dydd Mawrth Hydref 24 am 9am, Clerc i wahodd Zac i’r cyfarfod.

 

Y Gofgolofn.  Cadarnhaodd C.Brewer fod cyfeillion Dolwyddelan yn ei Blodau yn mynd i gyfarfod yn y Gofgolofn cyn Sul y Cofio.

 

Gwaith yn y Fynwent. Cafwyd adroddiad am y gwaith sydd wedi cymryd lle ar gyfer y cynllun, a’r gwaith ‘sgorio’ ar gyfer y ceisiadau. Eto diolchwyd i Connie a Liz am eu gwaith a dyfalbarhad. 

 

Rheolau Adolygwyd y Cod Ymddygiad, Polisi Cyfle Cyfartal a’r Rheolau Sefydlog a’i derbyn cynnig M.Skerrett gyda E.R.Noble yn eilio a phawb o blaid.

 

Ariannol. Rhoes y Clerc adroddiad am y sefyllfa bresennol i’r Aelodau a chytunwyd ar y biliau i’w talu, cynnig C.Brewer, cefnogi  C.L.Price a pawb o blaid.

 

Llysiau’r Dial. Clerc wedi cysylltu ȃ Chwmni B.Parry, dim atebiad hyd yma.

 

Diffibriliwr. M.Skerret wedi derbyn prisiau ar gyfer hyn gwnaiff  ragor o ymholiadau.

 

Gwasanaeth Bysiau. Y drefn yn mynd ymlaen a pwysleisiodd Liz Roberts eto am yr angen i’w   ddefnyddio neu fe’i collir. Yn naturiol mae problemau yn codi o dro i dro ond mae hi’n dda cael y gwasanaeth yn yr ardal.

 

Tai Tanrallt. Roedd Liz Roberts wedi mwynhau ei ymweliad, gwaith atgyweirio yn cymryd lle ar un o’r tai.

 

A470 Bwlch Gorddinan. Atebiad gan Neil Dyson yn dweud y bydd yn yr ardal yn fuan ac y gwnaiff gael golwg ar y brigau coed sy’n creu problem gwelededd ar yr A470 cyn y tro am Roman Bridge.

 

Gwefan. M.Skerrett wedi cyfeirio at uwchraddio’r wefan gyda Nick, a trafod y gost. Trafodwyd y manylion cyn cytuno i osod poster yn gofyn i rai a diddordeb yn y gwaith i nodi hyn wrth y Clerc.

 

Coeden Nadolig.  Rhoes C.Brewer wybodaeth am y trefniadau, Clerc yn cysylltu gyda Clerc Cyngor Blaenau Ffestiniog yn rheolaidd.


Archeb 2024 Cadarnhaodd y Clerc ei fod wedi derbyn llythyr gan CBSC yn nodi y byddant angen cael gwybod y ffigwr erbyn Ionawr 19 2024.

 

Torri Coed. Cyfeiriodd M.Skerrett fod angen torri brigau a coed ym Mhont y Pant a nododd y safleoedd, cytunodd i dynnu lluniau ohonynt er mwyn i’r Clerc gael ei hanfon ymlaen at CBSC, cyfeiriodd L.Roberts at y goeden fawr sydd angen cael golwg arni ger tai Tanrallt. Clerc i adrodd am y ddau safle.

 

Archwiliad.  Cadarnhaodd y Clerc ei fod wedi bod yn trafod ffurflenni sydd heb ei cwblhau gyda’r Swyddfa yng Nghaerdydd, fel cyn Gadeirydd roedd E.R.Noble hefyd wedi cael copi o’r ohebiaeth.

Cafwyd trafodaeth fanwl am y sefyllfa cyn cytuno i gyfarfod ar Hydref 26 i drafod eto.


Cyfarfod nesaf. Cytunwyd i gyfarfod nesaf nos Iau  Tachwedd 9.