Amdanom Ni

Mae oddeutu 380 o bobl ar restr etholwyr yr ardal ac mae’r Cyngor Cymuned yn cyfarfod chwech gwaith y flwyddyn yn y Ganolfan Gymdeithasol ar y nos Iau cyntaf o’r mis am 7yh.

Cynhelir cyfarfodydd ym mis: Ionawr, Mawrth, Mai, Gorffennaf, Medi a Thachwedd.

Mae’r Cyngor o fewn ffiniau Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy a hefyd o fewn ffiniau Parc Cenedlaethol Eryri sydd â chyfrifoldeb am holl faterion cynllunio’r ardal.

Beth Mae’r Cyngor Cymuned yn ei Wneud?
Mae swyddogaethau cyngor cymuned wedi’u nodi yn LGA 1972 ac mewn deddfwriaeth arall. Ymhlith y gwasanaethau a’r cyfleusterau y maent yn eu darparu amlaf mae neuaddau pentref, meysydd chwarae a mannau agored, seddi, llochesi, goleuadau stryd a llwybrau troed. Mae Cyngor Cymuned Dolwyddelan hefyd yn gyfrifol am y Fynwent y Senotaff a’r Cyfleusterau Cyhoeddus.
O dan Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 mae gan gynghorau cymuned y pŵer i wneud unrhyw beth y maent yn ei ystyried yn debygol o hyrwyddo neu wella llesiant economaidd, llesiant cymdeithasol neu lesiant amgylcheddol eu hardal.

Gellir cysylltu â Chyngor Conwy ar 01492576300.

Parc Cenedlaethol ar 01766770274.